Posts

Showing posts from October, 2023

Dolig cynnar

Image
Roedd Sul diwetha fel bora Dolig acw. Y cyffro blynyddol o ddisgwyl yn eiddgar am Siôn Corn Radio Cymru – Dei Tom – a llond sach o westeion yn barod i drin a thrafod Cyfansoddiadau’r Genedlaethol. I un sydd braidd byth yn prynu’r Cyfansoddiadau (sori!) os oes copi ar gael o gwbl (mae’n bestseller rheolaidd y wasg Gymraeg ddiwedd haf), heb gael fawr o gyfle i 'styried y cerddi buddugol, ac yn ysu i glywed barn eraill am fuddugwyr yr adran ryddiaith – mae’n rifyn anhepgor. A difyr oedd clywed a chymharu barn Meg Elis, Sian Northey, Robat Powell a’r cyflwynydd ei hun am ‘Hallt’ Meleri Wyn James a ‘Gwynt y Dwyrain’ Alun Ffred – dwy nofel y llowciais ar wyliau diweddar i Wlad Belg.  Gallan nhw fod wedi llenwi slot dwy awr gynharach Ffion Dafis yn hawdd. Dyma rifyn arbennig wnaeth ategu’r ffaith bod angen Y Silff Lyfrau nôl ar y radio efo Catrin Beard a’r criw reit handi! Hynny heb sôn am bwysleisio diffeithwch celfyddydol ar S4C ar wahân i’r Babell Lên am wsos yn Awst. A na, tydi amb...