Dan do
'Mond piciad i Gwmderi ydw i dyddiau hyn. Mae'r arfer o wylio'n selog bob nos wedi mynd, byth ers i BBC Cymru/S4C ddrysu a thocio'r amserlen, stwffio ambell gêm bêl-droed rhwng Llanbedinodyn FC a rhyw dîm o Ynysoedd Ffaröe, cyflwyno mwy o fratiaith a straeon llethu mynadd. Un funud roedd Gwern Monk yn dwyn lolipops o siop Colin efo Arwen, rwan mae o'n carchar plant drwg r'ôl chwarae efo gwn a cheisio llosgi cwpl yn golsyn, a fynta prin ym Mlwyddyn 10-ish. Ond pan dwi'n dal i fyny ar Clic, mae'n ymddangos fel pe bai pawb naill ai'n byw ym mhocedi ei gilydd neu'n ffeirio fflatiau'r naill a'r llall. Faint o lofftydd sydd yn fflat Ffion yng Nghysgod y Glyn er enghraifft? Roedd hithau, Arwen, Jinx a Cai yn cyd-fyw am bwl. Mae Hywel a Gaynor wedi gwahanu, felly mae'r cyn-brifathrawes wedi gadael ei chartra moethus ei hun i rentu hen dy cownsil Kath Jones efo'i chwaer goll o 'Recsym, ar ôl i Kath benderfynu symud i fflat y Deri Ar...