Posts

Showing posts from August, 2023

'Mond deud

Image
 

Werth y byd i gyd yn grwn

Image
The Bear - cyfres seren Michelin o Chicago Waeth i mi fod yn gwbl onest ddim. 'Snam pwynt gwylio S4C ddiwedd Awst. Iawn os 'da chi heb weld ailddarllediad o Adre lle mae Nia Parry yn piciad i gartre enwogion a Gareth Wyn Jones, neu'n dal i ddal fyny ar arlwy'r Babell Lên. A siawns fod PAWB wedi gweld Cynefin a Stori'r Iaith y tro cyntaf erbyn hyn, waeth pa mor dda ydyn nhw. Diolch i'r drefn am danysgrifiadau'r sianeli Saesneg. Dwi wedi dechrau gwylio sawl peth, cofiwch, a rhoi'r gora iddi wedi pennod gynta symol ar y naw ar netfflics . Gormod o bwdin pum-cyfres-deg-pennod yr un, ydi hi weithiau. Er, efallai ddylwn i orffen gwylio Rough Cut hefyd, ar ôl colli mynadd hanner ffordd drwy'r darllediad gwreiddiol ar y Sianel Gymraeg am ryw reswm. Well i mi frysio hefyd, gan eu bod nhw newydd ddechrau ffilmio ail gyfres Iwcs (heb Doyle). Ond mae ambell un sy'n werth yr amser a'r ymdrech, fel...   Marnow Murders (Walter Presents) Thriller o ardal...

Byd Maxine a Cranogwen

Image
Mae hogan o Gonwy wedi cael sawl sgŵp rhyngwladol yn ddiweddar. Yn ogystal â dangos i America a thu hwnt bod llawer mwy i ‘Wales’ na rhyw dywysoges dena o Windsor, diolch i gyfres ddogfen Welcome to Wrexham , mae Maxine Hughes hefyd yn gohebu’n gyson ar S4C a Radio Cymru am wleidyddiaeth honco ei gwlad mabwysiedig. Fe’i gwelsom eisoes gyda Jason Hughes yn ffilm ddogfen Trump, America a Ni ar drothwy etholiad arlywyddol 2020, a nawr Trump: Byd Eithafol fis diwethaf. Mae’r pwnc trafod braidd yn anffodus, achos dywedodd sawl un wrthyf eu bod nhw’n hoffi Maxine ond yn gyndyn o wylio achos yr orenddyn ei hun. I fod yn deg, dim ond rhyw 8 munud tua’r diwedd barodd y cyfweliad efo’r cyn-Arlywydd (y cwbl ar delerau Donald wrth gwrs), achos roedd y road trip cychwynnol trwy amryw daleithiau a ffans MAGA (“Make America Great Again”) yn llawer mwy cyfareddol. Ac roedd rhywun yn gwylio gan feddwl am Frexitiaid pybyr y parthau hyn hefyd, ond heb yr obsesiwn afiach â gynnau.   O Maurice,...

Calon

Image
  Amser maith yn ôl, roedd criw ohonom yn nhŷ myfyrwyr Senghenydd Place Cathays yn gwylio rhaglen boblogaidd nos Sadwrn ar S4C cyn mynd allan. Y gyfres oedd Bacha hi o’ma! (1991-1997) mewn ymateb i fformat boblogaidd ITV ar y pryd lle’r oedd Cilla Black yn ceisio paru cariadon. Rhan o'r apêl oedd gweld pwy oeddan ni’n nabod, a fyddai Melanie a Gaerffili yn deall Elfyn o Betws Gwerful Goch, a pha gr’adur digymar oedd yn dal i droelli ar y bachyn o wythnos i wythnos. Erbyn heddiw, mae ’na sioe ddetio arall ’mlaen ar sianel youtube Hansh (i rai 16-34 oed yn bennaf meddai S4C) sy’n gneud i fersiwn Alwyn Siôn ymddangos yn ‘Dechrau Canu’ o barchus. Mae teitl Tisho Fforc? yn awgrymu nad un i’r oriau brig yw hon, ond â’r gyfres wedi ennill gwobr New Voices fel y gyfres gymdeithasol orau yng Ngŵyl Deledu Caeredin yn gynharach eleni, dyma ddal i fyny ar benodau o ŵyl Triban Steddfod yr Urdd Llanymddyfri. Ac ydi, mae mor gynnil â gordd wrth i Mared Parry groesawu dau sy’n cael eu rho...

Ar dân

Image
Mae'n haf. Sy'n golygu treulio oriau braf yn yr ardd efo nofela'r steddfod a gwydriad o rywbeth oer. Trip i'r traeth neu sioeau lleol. Picnics yn y parc a phnawniau diog mewn ryw r'ardd gwrw. Yr aer yn drwch o ogla eli haul a sosijis 'di llosgi. Mewn byd delfrydol hynny yw. Achos 'leni, wrth i rannau helaeth o dde Ewrop ddiodda mewn gwres 40 canradd a mwy, bu'n dampar go iawn yng Nghymru a gweddill Brexitshire. Sy'n golygu cynnau'r teli bocs wrth iddi oeri a nosi'n gynt. Mi gafodd ein sioeau sebon rywfaint o hoe dros y Sioe a'r Steddfod, wrth i Ifan a Mari, Trystan ac Elin a Nia hawlio ein sylw o fora gwyn tan nos gydag uchafbwyntia o'r uchafbwyntiau tan fis Medi. Dim mwy o ddramatics Glanrafon a Chwmderi am 'chydig. Rhaid wrth cliffhangyr i'n denu'n ôl at y tymor nesa. Cawsom ddiweddglo tanllyd i'r ddwy gyfres sebon. Yn Rownd a Rownd , roedd Trystan Siop Gwallt di trefnu gwyliau bwthyn-a-twba-poeth i...

Hen flog, cyfeiriad newydd

Image
S'mai. Dyl yma - aka shitclic ers talwm. Wedi penderfynu dechrau un newydd gan fod llawer o wefannau yn casau'r hen enw (anweddus?) ac yn blocio unrhyw beth sh*t.  Rhyw biciad i mewn fel bo'r awen a'r awydd fydda i.  Cyfuniad o farn y funud ac archif colofnau'r Cymro a pha bynnag waith arall sy'n codi (annwyl olygyddion clên). Rhyw brosiect sgwennu er fy mwyn fy hun yn anad dim. Diolch, a mwynhewch y darllen. Faint bynnag ohonoch chi sydd allan yna.