Crime Cymru
Beth sy’n gyffredin rhwng gohebwyr BBC Cymru, prif leisydd ‘Y Cyrff’ ers talwm, ffarmwr o Lanllechid, Theresa May a phrifardd coronog Boduan? Mae’r cyfan i’w clywed ar bodlediad am ddirgelwch y llofruddiaeth ar y Fam Ynys adeg Pasg 2019. Mi fuasai’n gwneud chwip o ddrama deledu ar BBC Wales yn lle’r nonsens Wolf, ond am y tro, mi wnaiff stori sain chwe-rhan Meic Parry (y mae’r adroddwr Tim Hinman yn mynnu ei alw’n ‘Mike Perry’ am ryw reswm) yn tsiampion.
The Crossbow Killer ydi cyfraniad diweddara Cymru i gronfa BBC Sounds, ac ydi, mae’n braf clywed acen Gogs fel Meic a’r gohebwyr Elen Wyn a Siôn Tecwyn, i ddrysu’r Middle Englanders sy’n meddwl ein bod ni gyd yn siarad Saesneg ystrydebol y Cymoedd. Mae’n hyfryd clywed Meic yn dechrau sgwrsio’n Gymraeg gydag ambell gyfrannwr iaith gyntaf hefyd, cyn troi i’r Saesneg er budd y gynulleidfa Brydeinig. Roeddwn i’n lled-ymwybodol o achos Gerald Corrigan, dyn dŵad meudwyaidd i Fôn, a laddwyd dan amgylchiadau erchyll wrth drïo trwsio signal teledu ei fwthyn – ond nid y mân droseddwyr eraill a ddatgelwyd fesul pennod. Roedd yr elfennau ddogfennol wir yn hoelio’r sylw, wrth glywed Meic Parry yn ail-greu siwrnai’r drwgweithredwyr a hel tystiolaeth CCTV i gyfeiliant y gwynt a’r tonnau ochr yn ochr â cherddoriaeth gefndir Mark Roberts. Gwrando wrth ddreifio oeddwn i’n bennaf, ond bu’n rhaid dal i fyny eto yn nhawelwch adra lle cefais fy nghludo’n ôl i arfordir gwyllt Ynys Gybi. Do, mi gefais ias wrth wrando felly. Er bod y saethwr Terry Whall bellach dan glo, mae’r ffaith nad yw’r union gymhelliad yn gwbl glir yn awgrymu bod pennod afaelgar arall eto i ddod.
Daeth podlediadau i’r adwy sawl tro ar hyd yr A470 syrffedus, wrth i mi lawrlwytho a gwrando’n ôl trwy system Bluetooth y car. Ffefryn arall ydi Gwreichion sy’n olrhain hanes yr ymgyrch losgi 30 mlynedd ers iddi ddod i ben. Roeddwn i’n gwybod ein bod ni mewn dwylo diogel, gan mai’r newyddiadurwr Ioan Wyn Evans oedd awdur a chyflwynydd podlediad cyfareddol Y Diflaniad am ffarmwr Pwylaidd ym mhentre Cwm-du ym 1953.
’Nôl i’w bodlediad diweddaraf, ac mae’n gronicl cynhwysfawr o’r tŷ haf cyntaf a losgwyd ym 1979 hyd at yr achos llys drwgenwog yng Nghaernarfon 1993. Clywn gan arbenigwyr niferus, o’r hanesydd Dr Elin Jones, Marian Wyn Jones ac Alun Lenny o’r BBC, a’r cynwleidyddion Elfyn Llwyd a’r Tori Nicholas Bennett – heb anghofio Dafydd Iwan sy’n amau bodolaeth Rhys Gethin a Meibion Glyndŵr, a taw ymgais gwasanaeth cudd yr MI5 i bardduo’r cenedlaetholwyr oedd y job lot. Y bennod ddifyrraf oedd ‘Yng ngwyneb y fflam’ am y bobl gyffredin ddaeth i gyswllt â gweithredoedd Meibion Glyndŵr. Clywsom am brofiadau Euros Edwards, “dyn y Preseli o’i gorun i’w sawdl” ac aelod o’r criw tân lleol wnaeth ymateb i dŷ a oedd yn wenfflam yn unigeddau Mynachlog-ddu ym 1985. Wrth iddo fe ac Ioan Wyn Evans ddychwelyd i safle’r llosgi, mae’n cofio’r braw o weld bom tân (incendiery device) yn ffrwydro yn llaw’r arbenigwr difa. Cawn atgof arall o fis Medi 1986, a Marian Wyn Jones yn sôn am “gyfweliad emosiynol iawn iawn” gyda pherchennog tŷ haf a losgwyd yn golsyn. Perchennog a oedd yn digwydd siarad Cymraeg, cofiwch. Prawf nad oedd y sefyllfa’n gwbl ddu a gwyn, fel y Cymry hynny sy’n elwa ar yr AirBnBs cynhennus heddiw.
Mae cyfres dwy ran Firebombers! ar iPlayer yn trafod yr un cyfnod cythryblus yn ein hanes, ac yn y ciw gwylio fama. Bechod nad ydi’r rhaglen ddogfen Bryn Fôn: Chwilio am Feibion Glyndwr a ddarlledwyd ar S4C dwy flynedd yn ôl yn dal ar gael trwy archif Clic.
Sôn am Clic, braf gweld y gwasanaeth ar alw Cymraeg yn ymddangos ochr yn ochr â’r mawrion ffrydio fel Netflix a Disney+, gan agor S4C i 16 miliwn o gartrefi newydd yn ôl gwefan Freeview. Llai o wylio ar sgrin bitw fy ffôn lôn felly, a mwy ar deledu clyfar mawr y lolfa, yn enwedig gan fod Clic yn rhagori ar iPlayer o safbwynt isdeitlau Cymraeg.
Jesd mewn pryd i ddal i fyny ar rygbi o Ffrainc a drama newydd Anfamol y mis hwn.




Comments
Post a Comment