Dan do
'Mond piciad i Gwmderi ydw i dyddiau hyn. Mae'r arfer o wylio'n selog bob nos wedi mynd, byth ers i BBC Cymru/S4C ddrysu a thocio'r amserlen, stwffio ambell gêm bêl-droed rhwng Llanbedinodyn FC a rhyw dîm o Ynysoedd Ffaröe, cyflwyno mwy o fratiaith a straeon llethu mynadd. Un funud roedd Gwern Monk yn dwyn lolipops o siop Colin efo Arwen, rwan mae o'n carchar plant drwg r'ôl chwarae efo gwn a cheisio llosgi cwpl yn golsyn, a fynta prin ym Mlwyddyn 10-ish.
Ond pan dwi'n dal i fyny ar Clic, mae'n ymddangos fel pe bai pawb naill ai'n byw ym mhocedi ei gilydd neu'n ffeirio fflatiau'r naill a'r llall. Faint o lofftydd sydd yn fflat Ffion yng Nghysgod y Glyn er enghraifft? Roedd hithau, Arwen, Jinx a Cai yn cyd-fyw am bwl. Mae Hywel a Gaynor wedi gwahanu, felly mae'r cyn-brifathrawes wedi gadael ei chartra moethus ei hun i rentu hen dy cownsil Kath Jones efo'i chwaer goll o 'Recsym, ar ôl i Kath benderfynu symud i fflat y Deri Arms at Cassie. Dyn â wyr efo pwy gysgith Brynmor r'ôl i hwnnw ddychwelyd o Mericia (os o gwbl). Hynny er bod gan Hywel dŷ teras tsiampion drws nesa i'r Deri, sydd bellach ar osod i Colin a Britt 'nath orfod gadael fflat y siop chips wedi tân. Mae'n greisus tai fforddiadwy ym Mryntirion hefyd, wrth i Kelly a Jason ac Ifan bach orfod rhannu lle â Dai a Diane, ac weithiau Anita a Griffiths, er bod hwnnw'n arfer â'i lordio hi mewn plasty bach yn y wlad efo'i ddiweddar Fami (a chwaraewyd gan Beti George).
Gyda llaw, wnaiff rhywun ddweud wrth Sara Francis (Helen Rosser-Davies), mam Ifan, ei bod hi'n saff iddi adael ei chuddfan a dychwelyd i'r Cwm nawr bod ei chyn-gariad a gangstyr Dylan wedi'i gladdu. Am wn i. 'Da chi byth yn siŵr efo'r operâu sebon ma. Sbïwch ar 'Stendyrs, lle mae Dirty Den, Kaff a rŵan Cindy wedi dod nol o farw'n fyw.
![]() |
| Pwy sy'n byw'n lle? |


Comments
Post a Comment