Posts

Prisoner Cell Block "Ll"

Image
  Gwion Tegid   Fis yn ôl roeddwn i’n diawlio cynyrchiadau cefn-wrth-gefn ac yn gofyn i S4C a/neu BBC Wales “arbed amser ac arian trwy ffilmio un rhifyn bei-ling fel Bang gydag isdeitlau ar y sgrin, i’w darlledu’n rhyngwladol dan faner Cymru Noir”. Sôn am sbŵci, achos cafwyd datganiad i’r wasg gan y Sianel ddechrau Ionawr yn ategu’r union beth, wrth gyhoeddi drama newydd “ Bariau yn dilyn llwyddiant drama drosedd ddwyieithog fawr gyntaf S4C, Bang” sydd wedi’i gwerthu i Ganada, Gogledd America a Sweden ers hynny. Ro’n i wedi cymryd at y ddrama hon ar sail ei theitl yn unig, lle rydyn ni’n dal i fyny efo Barry Harry ( Gwion Tegid ), dihiryn hoffus Rownd a Rownd ers talwm, yng ngharchar y Glannau. Ond roedd neges ar wefan Clic (“Mae'r rhaglen hon yn cynnwys golygfeydd o natur rywiol, golygfeydd treisgar ac iaith gref”) yn awgrymu’n gryf nad ydi hon mor addas i’r teulu cyfan ag y mae’r sioe sebon o Lanrafon. Ac o’r cychwyn cyntaf bron, mae’r cymeriadau caled yn effio a bleindio’

Plismyn drama a go iawn

Image
Elen Rhys a  Nid DI Mathias   Roeddwn i wedi cyffroi’n lân am bwl cyn Dolig. Ar ôl sôn am Y Gwyll yng ngholofn mis Rhagfyr, dyma ddatganiad i’r wasg yn cyhoeddi bod Richard Harrington wrthi’n ffilmio cyfres dditectif newydd o'r enw Cleddau . Sbin-off! meddyliais, gyda’r hen DI Mathias fythol bruddglwyfus wedi codi pac a symud i’r de o Aber. Troseddau newydd, seidcic newydd, a chyfle i ddangos rhywfaint o ysblander Sir Benfro i weddill y byd. Ond dwi’n amau i mi adio dau a dau a chael 999 achos sdim sôn o gwbl am ’rhen Fathias yn yr amrywiol ddatganiadau, dim ond bod cyn-gariadon (Harrington ac Elen Rhys) yn ymchwilio i “lofruddiaeth ysgytwol nyrs sy’n agor hen glwyfau mewn cymuned tref fach, gan daflu euogfarn hanesyddol i amheuaeth a chodi'r posibilrwydd arswydus o lofrudd copycat ”.  Mi fuasai'r sinig yn deud mai copycat o bob drama drosedd dywyll dan haul fydd hon hefyd. Cwpl anghymarus mewn cotiau glaw? Tic. Sawl golygfa mewn coedwig tamp? Tic. Gwerthu'r fersiw

Drama hirfelyn tesog

Image
Y Morganiaid Ydi comisiynwyr drama S4C wedi colli nabod ar eu cynulleidfaoedd bellach? Y gynulleidfa graidd, hynny yw, sydd wedi bod yn uffernol o ffyddlon i’r Sianel ers y dyddiau cynnar – nid hacs papurau newydd Lloegr yn y gobaith o gael sylw yn sbred uchafbwyntiau teledu’r wythnos. Cynulleidfaoedd fel fy mam, fy modrybedd ac ewythrod a’r miloedd mwy a arferai edrych ymlaen at ddrama nos Sul ar hyd y blynyddoedd. Ond ddim mwyach. Fe gawson nhw eu difetha’n rhacs yn y nawdegau, gyda dramâu cyfnod fel Y Palmant Aur hyd at Con Passionate Siwan Jones yn y mileniwm newydd wedyn a misdimanars gwleidyddol y Bae yn Byw Celwydd . Doedd ganddyn nhw ddim i’w ddweud wrth y cyfresi ditectifs fu’n boblogaidd am bwl, yn wahanol i fi, oedd wedi mopio ar Y Gwyll yn nhraddodiad gorau’r Sgandinafiaid. Ond colli mynadd wnes innau’n raddol wedyn, wrth i fwy o ddramâu cefn wrth gefn gael eu cynhyrchu gan roi’r argraff anniddig taw fersiwn Saesneg BBC Wales oedd yn ben, yn enwedig ag ambell actor ddi