Drama hirfelyn tesog

Y Morganiaid


Ydi comisiynwyr drama S4C wedi colli nabod ar eu cynulleidfaoedd bellach? Y gynulleidfa graidd, hynny yw, sydd wedi bod yn uffernol o ffyddlon i’r Sianel ers y dyddiau cynnar – nid hacs papurau newydd Lloegr yn y gobaith o gael sylw yn sbred uchafbwyntiau teledu’r wythnos. Cynulleidfaoedd fel fy mam, fy modrybedd ac ewythrod a’r miloedd mwy a arferai edrych ymlaen at ddrama nos Sul ar hyd y blynyddoedd. Ond ddim mwyach.

Fe gawson nhw eu difetha’n rhacs yn y nawdegau, gyda dramâu cyfnod fel Y Palmant Aur hyd at Con Passionate Siwan Jones yn y mileniwm newydd wedyn a misdimanars gwleidyddol y Bae yn Byw Celwydd. Doedd ganddyn nhw ddim i’w ddweud wrth y cyfresi ditectifs fu’n boblogaidd am bwl, yn wahanol i fi, oedd wedi mopio ar Y Gwyll yn nhraddodiad gorau’r Sgandinafiaid. Ond colli mynadd wnes innau’n raddol wedyn, wrth i fwy o ddramâu cefn wrth gefn gael eu cynhyrchu gan roi’r argraff anniddig taw fersiwn Saesneg BBC Wales oedd yn ben, yn enwedig ag ambell actor ddim yn gwbl gyfforddus yn y Gymraeg beth bynnag.

Ond YR un sy’n dal i aros yn y cof i lawer ydi Teulu (2008-2013) gan Branwen Cennard a’r diweddar Meic Povey. Saga sebonllyd am Forganiaid Bryncelyn a’u maes carafanau ger Bae Ceredigion fythol braf, a staff a meddygon Glan Don oedd yn caru a checru fwy na sgwennu presgripsiwns. Cymaint oedd llwyddiant Rhys Parry Jones yn portreadu’r prif Ddoc nes i rywun greu cyfrif Twitter tafod-yn-boch @drjohnffug â’r disgrifiad ‘Yr wyf yn bartner ym Meddygfa Glan Don Surgery, ar ôl diwrnod caled o waith 'sdim gwell na gwydraid o win yn Y Cei gyda fy nghymar ffyddlon, Margaret’.

Efallai bod y straeon wedi mynd yn sili o ailadroddus erbyn y diwedd (pwy oedd yn cysgu efo pwy/rhoi cyllell yn nghefn y llall) ond roedd ’na sglein i’r gyfres, a haf-o-hyd Aberaeron yn apelio’n fowr i ni ganol gaeaf soeglyd. Ac mi roedd seren diweddaraf drama S4C yn aelod o gast Teulu hefyd, fel Robin, chef patisserie caffi Pot Jam lle’r oedd na fwy fyth o garu a checru yng nghanol y cacs. Rhodri Meilir oedd yr actor hwnnw, sydd bellach wrth y llyw yn nrama gomedi dywyll Pren ar y Bryn (Fiction Factory) ar nosweithiau Sul. Ac mae’n hawdd gweld stamp Ed Thomas a’r Gwyll/Hinterland ar hon hefyd, gyda cherddoriaeth a chredits agoriadol tebyg ar y naw i’r gyfres Cardi Noir.

 

Yn hon, mae Rhodri Meilir a Nia Roberts yn chwarae cwpwl hen o flaen eu hamser yn Clive a Margaret Lewis – fynta’n gwerthu carpedi, hithau’n gweithio mewn siop elusen. Mae bywyd yn saff a syml, cyn i ddigwyddiad tyngedfennol wrth warchod tŷ a chath ei chwaer un noson stormus “stopo neud unrhyw sens... a popeth yn newid am byth” ys dywed Clive. A dyw llawer am y gymdeithas leol ar gyrion y Bannau ddim yn gneud ‘sens’ ar yr olwg gynta chwaith – gyda’u ffasiwn unigryw, boi yn gneud Tai Chi ganol noson bingo, a thrac sain Hogia’r Wyddfa mewn cymuned llawn crysau tsiec fel pe bai tref ddirwasgedig yn America wedi glanio yn nhopiau Cwm Tawe. Mae ’na berfformiadau caboledig, goleuo a gwaith ffilmio gofalus yma, ond sgwn i a fydd naws ara deg ac odrwydd y cyfan yn ormod i lawer? Snam llawer o 'nghydnabod wedi dal ati wedi'r bennod gyntaf beth bynnag. Falle mai drama hwyr ganol wythnos ydi hon, ac un arall mwy canol y ffordd yn well ar gyfer nosweithiau Sul.

Wedi’r cwbl, byddai mymryn o heulwen Aberaeron yn ddihangfa braf iawn ar hyn o bryd, rhag llymder a rhyfela di-baid y presennol. 


 

Comments

Popular posts from this blog

Prisoner Cell Block "Ll"

Plismyn drama a go iawn