Plismyn drama a go iawn
![]() |
| Elen Rhys a Nid DI Mathias |
Roeddwn i wedi cyffroi’n lân am bwl cyn Dolig. Ar ôl sôn am Y Gwyll yng ngholofn mis Rhagfyr, dyma ddatganiad i’r wasg yn cyhoeddi bod Richard Harrington wrthi’n ffilmio cyfres dditectif newydd o'r enw Cleddau. Sbin-off! meddyliais, gyda’r hen DI Mathias fythol bruddglwyfus wedi codi pac a symud i’r de o Aber. Troseddau newydd, seidcic newydd, a chyfle i ddangos rhywfaint o ysblander Sir Benfro i weddill y byd. Ond dwi’n amau i mi adio dau a dau a chael 999 achos sdim sôn o gwbl am ’rhen Fathias yn yr amrywiol ddatganiadau, dim ond bod cyn-gariadon (Harrington ac Elen Rhys) yn ymchwilio i “lofruddiaeth ysgytwol nyrs sy’n agor hen glwyfau mewn cymuned tref fach, gan daflu euogfarn hanesyddol i amheuaeth a chodi'r posibilrwydd arswydus o lofrudd copycat”.
Mi fuasai'r sinig yn deud mai copycat o bob drama drosedd dywyll dan haul fydd hon hefyd. Cwpl anghymarus mewn cotiau glaw? Tic. Sawl golygfa mewn coedwig tamp? Tic. Gwerthu'r fersiwn Saesneg, nid Cymraeg, i weddill y byd? Tic tic tic.
The One That Got Away fydd enw'r cynhyrchiad bac-tw-bac gan gwmni Blacklight Television o Lundain. Dyn â ŵyr beth ddigwyddodd i gefnogaeth S4C i gwmnïau teledu annibynnol Cymraeg, ond o leia mae’r awdur (Catherine Tregenna) a’r cyfarwyddwr (Siôn Ifan) yn hanu o’r ochr iawn i Glawdd Offa. A dwi’n gobeithio, yn gweddïo, taw Cymraeg, nid google translate, fydd y cyfrwng ar S4C.
Gyda dramâu cefn-wrth-gefn yn amlwg yma i aros yn yr hinsawdd economaidd syrffedus sydd ohoni, onid yw hi’n hen bryd inni fod yn onest â ni’n hunain a chynhyrchu un fersiwn ddwyieithog i’w darlledu ar BBC Four? Dyna’r norm yn Ewrop mae’n ymddangos, gyda chyfresi trosedd diweddar fel Hidden Assets, cydgynhyrchiad rhwng Iwerddon a Gwlad Belg yn llithro’n rhwydd o Saesneg i Fflemeg ac ambell sgeintiad o Sbaeneg a Ffrangeg (ond nid Gwyddeleg, ysywaeth). Un arall oedd DNA gyda deialog Daneg a Ffrangeg yng nghanol lingua franca’r Saesneg. Felly S4C/BBC Wales, beth am arbed amser ac arian trwy ffilmio un rhifyn bei-ling fel Bang gydag isdeitlau ar y sgrîn, i’w ddarlledu’n rhyngwladol dan faner CymruNoir.

Cydgynhyrchiad rhwng Fflandrys, Iwerddon a Chanada - o! am bartneriaeth debyg i S4C
O blismyn drama i un go iawn, a chyfres ddogfen diweddar o’r enw Y Prif (ITV Cymru Wales). Na, nid proses recriwtio bos newydd i’r Sianel Gymraeg ond cyfres dair rhan yn dilyn prif gwnstabl Heddlu Dyfed Powys dros ddeunaw mis. Dy’n ni wedi hen arfer â chlywed am y frwydr anobeithiol yn erbyn cyffuriau gan Y Llinell Las ac ati, ac roedd hon yn agoriad llygad eto. Mae’n help garw bod y Dr Richard Lewis “ar dân i newid y drefn” fel un sy’n arwain holl luoedd Cymru a Lloegr ar fater plismona cyffuriau. Ar ôl ei weld yn ymuno â chyrch dal cyffurgwn yn Llanelli, aeth y camerâu gydag ef i San Steffan i gyflwyno ei weledigaeth wahanol o gynorthwyo yn lle llusgo pawb “drwy’r cwrt”.
Dyna’r agwedd yn yr Iseldiroedd hefyd, pan ymunodd ag aelod o’r Politie lleol ar y bît yn Amsterdam. Yno, mae’r pwyslais ar drin rhai sy’n gaeth i gyffuriau fel cleifion nid troseddwyr, i’w weld yn talu ar ei ganfed. Fel dywedodd llefarydd y rhaglen, Mali Harries, bu farw 6,000 achos cyffuriau caled yn y DU mewn blwyddyn, o gymharu â 70 yn yr Iseldiroedd. Nid bod Alun Michael, cyfrannwr i’r rhaglen fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu’r De yn swnio’n ffan o agwedd fwy rhyddfrydol yr Iseldirwyr o “achub nid arestio”. Rheswm arall dros gael gwared ar y tipyn swydd honno a throsglwyddo holl rym cyfraith a threfn i Fae Caerdydd unwaith ac am byth, fel ’sgin yr Alban, Gogledd Iwerddon a hyd yn oed Manceinion Fwyaf yn barod.
Mae Dr Lewis eisoes wedi dweud ei fod am weld y pedwar llu presennol yn uno dan fantell Heddlu Cymru erbyn 2030. Mae’r boi’n siarad sens, a hynny mewn Cymraeg clir a rhywiog mewn cyfres ddadlennol a diddorol iawn.


Comments
Post a Comment