Prisoner Cell Block "Ll"

 

Gwion Tegid

 

Fis yn ôl roeddwn i’n diawlio cynyrchiadau cefn-wrth-gefn ac yn gofyn i S4C a/neu BBC Wales “arbed amser ac arian trwy ffilmio un rhifyn bei-ling fel Bang gydag isdeitlau ar y sgrin, i’w darlledu’n rhyngwladol dan faner Cymru Noir”. Sôn am sbŵci, achos cafwyd datganiad i’r wasg gan y Sianel ddechrau Ionawr yn ategu’r union beth, wrth gyhoeddi drama newydd “Bariau yn dilyn llwyddiant drama drosedd ddwyieithog fawr gyntaf S4C, Bang” sydd wedi’i gwerthu i Ganada, Gogledd America a Sweden ers hynny.

Ro’n i wedi cymryd at y ddrama hon ar sail ei theitl yn unig, lle rydyn ni’n dal i fyny efo Barry Harry (Gwion Tegid), dihiryn hoffus Rownd a Rownd ers talwm, yng ngharchar y Glannau. Ond roedd neges ar wefan Clic (“Mae'r rhaglen hon yn cynnwys golygfeydd o natur rywiol, golygfeydd treisgar ac iaith gref”) yn awgrymu’n gryf nad ydi hon mor addas i’r teulu cyfan ag y mae’r sioe sebon o Lanrafon. Ac o’r cychwyn cyntaf bron, mae’r cymeriadau caled yn effio a bleindio’u ffordd drwy fywyd undonog y clinc.

A’r busnas drama ddwyieithog ’ma. Oes, mae na dipyn, wel lot fowr, o ddeialog Saesneg ynddi, fel y gellid disgwyl mewn carchar yn y Gogledd sy’n denu gormod o ddihirod dros Glawdd Offa dan drefniant gwasanaeth cyfiawnder englandandwales. Ac mae’r sgript yn llifo’n gwbl rwydd a naturiol o’r naill iaith i’r llall, o Kit Brennan (Adam Woodward, gynt o Hollyoaks) i Peter Watson (Glyn Pritchard) ac o! mor hyfryd ydi ei weld o a Cadfan Roberts nôl ar ein sgriniau unwaith eto, yn ogystal â Gwen Ellis fel Margaret y Bos-dim-lol. Ac wrth gwrs, mae gynnon ni’r token Hwntw yn Mali Tudno fel caplan y carchar sy’n pregethu i’r ffyddloniaid sy’n pedlera drygs dan ei thrwyn, cyn panad a bourbons siocled.

Ac mae’r awdur Ciron Gruffydd yn gwybod sut i gadw reiat efo disgwyliadau rhywun. Jesd fel mae rhywun yn gweld mymryn o ddiaioni yng nghanol yr holl blacmel a bygythiadau, fel y newydd-ddyfodiad Hussein o’r Rhyl (Gabin Kongolo) yn synnu pawb gyda’i Gymraeg ac yn dysgu chwarae draffts gyda Roberts islamoffobaidd ar yr olwg gynta, mae’r berthynas yn diweddu mewn modd erchyll gyda thecell o ddŵr berw. Tydio ddim yn wylio hawdd, a dwi’n ddiolchgar mai penodau hanner awr ydyn nhw, ond diawcs mi wnes i sglaffio drwy’r bocset. Sy’n fwy na’r hyn alla i ddweud i am Pren ar y Bryn a’r llall a heipiwyd drwy’r cysylltiadau Netflix. Ac mae’n debyg bod eraill yn cytuno â mi, gyda S4C yn cyhoeddi bod 22% yn fwy ohonom yn gwylio trwy wasanaethau Clic ac iPlayer ddechrau eleni o gymharu ag wythnos gyntaf Ionawr 2023, diolch i Bariau ac ambell gêm fawr rygbi a phêl-droed. Rhaid rhoi mensh arbennig i’r set hefyd. Nid rhywbeth carbord ciami Prisoner Cell Block H mohoni, ond 24 o gelloedd solat mewn set deulawr fodern bron i 2,500m² yn stiwdios Aria gwerth £1.6 miliwn yn Llangefni. Clod arbennig i’r cynllunydd Rhodri Sion a’r dylunydd set Dafydd Roberts felly.

Os mai dyma’r safon sy’n deillio o’r Fam Ynys y dyddiau hyn, melys moes mwy S4C!

Mi fuasai rhywfaint o gomedi yn dderbyniol iawn wedi hynny i gyd, ond prin iawn ydi’r genre hwnnw ar y Sianel. A siom o’r mwyaf oedd clywed na welwn ni gyfres arall o Rybish, fel yr awgrymodd Barrie ‘Archie’ Jones ar raglen radio Dei Tomos i drafod ei hunangofiant ‘Rhwng Bethlehem a’r Groes’. Y gyfres hon, wedi’i gosod mewn canolfan ailgylchu yng Ngwynedd, oedd un o berlau diweddar comedi Cymraeg.

O wel, cawn laff efo Cân i Gymru cyn hir.

Annes Elwy

 

Comments

Popular posts from this blog

Plismyn drama a go iawn

Drama hirfelyn tesog