Werth y byd i gyd yn grwn
![]() |
| The Bear - cyfres seren Michelin o Chicago |
Waeth i mi fod yn gwbl onest ddim. 'Snam pwynt gwylio S4C ddiwedd Awst. Iawn os 'da chi heb weld ailddarllediad o Adre lle mae Nia Parry yn piciad i gartre enwogion a Gareth Wyn Jones, neu'n dal i ddal fyny ar arlwy'r Babell Lên. A siawns fod PAWB wedi gweld Cynefin a Stori'r Iaith y tro cyntaf erbyn hyn, waeth pa mor dda ydyn nhw.
Diolch i'r drefn am danysgrifiadau'r sianeli Saesneg. Dwi wedi dechrau gwylio sawl peth, cofiwch, a rhoi'r gora iddi wedi pennod gynta symol ar y naw ar netfflics. Gormod o bwdin pum-cyfres-deg-pennod yr un, ydi hi weithiau.
Er, efallai ddylwn i orffen gwylio Rough Cut hefyd, ar ôl colli mynadd hanner ffordd drwy'r darllediad gwreiddiol ar y Sianel Gymraeg am ryw reswm. Well i mi frysio hefyd, gan eu bod nhw newydd ddechrau ffilmio ail gyfres Iwcs (heb Doyle).
Ond mae ambell un sy'n werth yr amser a'r ymdrech, fel...
Marnow Murders (Walter Presents) Thriller o ardal y llynnoedd yr Almaen, am ddeuawd o'r enw Lona Mendt a Frank Elling sy'n ceisio dal llofrudd cyfresol ganol haf chwilboeth. Mae'r ffin rhwng y proffesiynol a'r personol yn denau iawn wrth i'r ymchwiliad droi'n reit flêr a go waedlyd, gyda chwmni fferyllol a phen bandits yr heddlu yn gwneud unrhyw beth i gelu'r gwir, ysbrydion y Stasis (heddlu cudd y Deutsche Demokratische Republik) sy'n dal i staenio'r Almaen unedig heddiw, a thorcalon cariad. Fe wnaeth marwolaeth annisgwyl un o'r prif gymeriadau f'ysgwyd i'r carn. Un o gyfresi gorau Walter Presents eleni i mi.
Three Pines (Amazon Prime) Un cwyrci o Quebec ag elfennau mwy difrifol, lle mae ymchwiliad y Prif Arolygydd Armand Gamache (Alfred Molina dibynadwy o dda) i lofruddiaeth hen ast o awdures yn nhref anghysbell 'Three Pines' ar wyl San Steffan yn mynd law yn llaw â sgandal diflaniad merched ifanc brodorol a methiant yr awdurdodau gwyn i ddod o hyd iddyn nhw. Addasiad o gyfres 18 nofel Louise Penny. Meddyliwch am groesfrid Twin Peaks-Doc Martin wedi'i gosod ym mhrydferthwch y Ganada-Ffrengig.
The Bear (Disney+) Mae Carmen Berzatto, chef o'r radd flaenaf, yn dychwelyd adra i'w ddinas enedigol i geisio gael trefn ar fusnes brechdanau'r teulu ar ôl i'w frawd wneud amdano'i hun - gan adael cegin anhylan, baich biwrocratiaeth, tomen o ddyledion a staff cecrus heb eu talu ers wythnosau. Wrth iddo chwysu chwartia i drïo cael The Original Beef of Chicagoland nôl ar ei draed, buan y daw i glosio a dibynnu ar ei deulu newydd o weithwyr brith. Yng nghanol bedlam y gegin, mae 'na enydau tyner iawn ac ambell bennod arbennig - fel un Instardderchog o Copenhagen, wrth inni ddilyn un o'r cogyddion yn serenu ar gwrs crefftio pwdinau. Gyda phenodau hanner awr yr un, dyma gyfres berffaith i'w mwynhau dow-dow cyn noswylio.
World on Fire (dwy gyfres ar BBC iPlayer) Un i'r Brits rhonc ar yr olwg gynta, am filwyr a phobl gyffredin adeg yr Ail Ryfel Byd, ond sy'n siwr o wylltio'r Brexiteers pybyr efo actorion a deialog amlieithog, o Ffrangeg i'r Almaeneg, Pwyleg, Hindi a Mancunian. Mae'r cast yn ardderchog (efo Lesley Manville yn ei helfen fel yr hen snoben o Swydd Gaer sy'n gorfod cydfyw â'i theulu mabwysiedig o Wlad Pwyl), y straeon amrywiol yn gafael (Americanwr croenddu sy'n sownd ym Mharis dan law'r Natsîaid, nyrs ifanc sy'n ymuno â byddin gêl Ffrainc, carfan o filwyr Indiaidd sy'n dioddef hiliaeth slei y British Army yng ngogledd Affrica, i fraw aelodau ifanc Cynghrair Merched yr Almaen sy'n ddim mwy na pheiriant babis i'r Gestapo) a'r CGI yn amrywiol. Blocbystyr byd-eang go iawn, fel arferai'r hen BBC eu gwneud.




Comments
Post a Comment