Calon
Amser maith yn ôl, roedd criw ohonom yn nhŷ myfyrwyr Senghenydd Place Cathays yn gwylio rhaglen boblogaidd nos Sadwrn ar S4C cyn mynd allan. Y gyfres oedd Bacha hi o’ma! (1991-1997) mewn ymateb i fformat boblogaidd ITV ar y pryd lle’r oedd Cilla Black yn ceisio paru cariadon. Rhan o'r apêl oedd gweld pwy oeddan ni’n nabod, a fyddai Melanie a Gaerffili yn deall Elfyn o Betws Gwerful Goch, a pha gr’adur digymar oedd yn dal i droelli ar y bachyn o wythnos i wythnos. Erbyn heddiw, mae ’na sioe ddetio arall ’mlaen ar sianel youtube Hansh (i rai 16-34 oed yn bennaf meddai S4C) sy’n gneud i fersiwn Alwyn Siôn ymddangos yn ‘Dechrau Canu’ o barchus.
Mae teitl Tisho Fforc? yn awgrymu nad un i’r oriau brig yw hon, ond â’r gyfres wedi ennill gwobr New Voices fel y gyfres gymdeithasol orau yng Ngŵyl Deledu Caeredin yn gynharach eleni, dyma ddal i fyny ar benodau o ŵyl Triban Steddfod yr Urdd Llanymddyfri. Ac ydi, mae mor gynnil â gordd wrth i Mared Parry groesawu dau sy’n cael eu rhoi blât yn llythrennol a chwarae gemau awgrymog gyda bwyd a diod wrth ateb cwestiynau am y naill a’r llall. Fe ebychais a chwarddais yn uchel ambell dro, mewn cyfres lle mae’r iaith yn fain iawn ar brydiau. Rydan ni gyd yn euog o lithro geiriau Saesneg bob dydd (gweler uchod) ac mae rhai o’n gwleidyddion iaith gyntaf yn sôn byth a hefyd am “gapasiti” a “sgrwtineiddio” a gwaeth. Ond pan mae cyflwynwyr S4C neu Radio Cymru, a’u rheolwyr cyfrifon cymdeithasol, yn disgyn i’r fagl ddiog o siarad Saesneg yn Gymraeg, mae ’na le i boeni. Ai dyma oedd y Prif Weithredwr Sian Doyle yn ei olygu fel “… hybu’r iaith, sbarduno siaradwyr newydd” wrth lansio Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol S4C?
Mae Tisho Fforc? wedi colli cyfleu euraidd i ddefnyddio Cymraeg Clir yn llawn dychymyg, a chyflwyno dywediadau cynhenid newydd a bachog i’r gynulleidfa ifanc yn lle "cheeky devils", “flirty fitties” ac ati. Yn enwedig os ydi iaith y cystadleuwyr neu’r cyfranwyr yn rhagori ar y sawl sy’n llywio’r rhaglen.
![]() |
| fancy a fork, butt? |
Ond tydi pethau ddim yn ddu i gyd, gyda Miriam Isaac yn arwain Mwy na Daffs a Taffs yn fwy na medrus. Cyfres sy’n addysgu ein cyd ynyswyr am Gymru, “sêr” plastig sioeau realiti Lloegr gan amlaf, er bod rhifynnau gwell i’w cael. Roedd un gyda’r perfformiwr drag Blu Hydrangea o Ogledd Iwerddon yn treulio deuddydd yn Llambed yn llawer mwy na chadw reiat a chwalu ystrydebau am wlad Tom Jones, glaw a defaid. Er, mi gawson ni gae o ddefaid wrth i Miriam a Blu ymweld â Serenity, “Cwîn Cefn Gwlad Ceredigion”, ar fferm y teulu yn Nihewyd. Ticiwyd sawl cliché arall hefyd wrth ymweld ag ymarferion côr a rygbi lleol – ond roedd Blu Hydrangea wedi’i hudo gan groeso ac agosatrwydd y gymdeithas leol, heb sôn am siop a chaffi sy’n cynnig teganau rhyw yn ogystal â theisen. ’Na chi ddeunydd cyfres ddrama wedi’i gosod yn y gorllewin gwyllt.
Cawsom gip arall ar Geredigion yn ffilm ddogfen 10 munud Y Mosabbirs am frawd a dwy chwaer (Ibrahim, Naveena, Khadiza) yn trafod yr her o gadw eu traddodiadau Bengali ac Islam fel Cymry ifanc Aberteifi. Ac ow! roedd hi’n siomedig clywed am brofiadau cyffredin y tri o hiliaeth, weithiau fel achos o ragfarn ddiarwybod. Clywsom straeon mwy smala am y ffaith fod CVs priodas yn rhan o ddiwylliant De-ddwyrain Asia, er mwyn canfod cymar oes addas i’w plant, gan achosi i Naveena annibynnol “gachu pants”. Roedd eu hyder yn heintus, eu cariad at y teulu yn amlwg, a’u straeon yn haeddu llawer mwy na deng munud o’n hamser.



Comments
Post a Comment