Byd Maxine a Cranogwen
Mae hogan o Gonwy wedi cael sawl sgŵp rhyngwladol yn ddiweddar. Yn ogystal â dangos i America a thu hwnt bod llawer mwy i ‘Wales’ na rhyw dywysoges dena o Windsor, diolch i gyfres ddogfen Welcome to Wrexham, mae Maxine Hughes hefyd yn gohebu’n gyson ar S4C a Radio Cymru am wleidyddiaeth honco ei gwlad mabwysiedig. Fe’i gwelsom eisoes gyda Jason Hughes yn ffilm ddogfen Trump, America a Ni ar drothwy etholiad arlywyddol 2020, a nawr Trump: Byd Eithafol fis diwethaf. Mae’r pwnc trafod braidd yn anffodus, achos dywedodd sawl un wrthyf eu bod nhw’n hoffi Maxine ond yn gyndyn o wylio achos yr orenddyn ei hun. I fod yn deg, dim ond rhyw 8 munud tua’r diwedd barodd y cyfweliad efo’r cyn-Arlywydd (y cwbl ar delerau Donald wrth gwrs), achos roedd y road trip cychwynnol trwy amryw daleithiau a ffans MAGA (“Make America Great Again”) yn llawer mwy cyfareddol. Ac roedd rhywun yn gwylio gan feddwl am Frexitiaid pybyr y parthau hyn hefyd, ond heb yr obsesiwn afiach â gynnau.
O Maurice, arweinydd grŵp “Blacks for Trumps”, i Patricia, dynes ganol-oed o deulu o Ddemocratiaid sy’n bellach yn eilunaddoli Trump (dychmygwch fersiwn Florida o Nadine Dorries) a rapiwr o'r enw Forgiato Blow sydd wedi gwario hanner miliwn o ddoleri yn cefnogi Trump – fe gawson nhw i gyd eu holi gan Maxine. Ond y darn mwyaf swreal oedd rali awyr agored yng nghefn gwlad Pennsylvania, a rhyw 1,500 o selogion yn sefyll mewn cae mwdlyd yn gwrando ar eu Harwr yn rhuo a rhefru am “crazy Nancy Pelosi”, “crooked Hillary Clinton” a’r “fake news guys” gan gynnwys Maxine a’i chriw camera rhynllyd a hynod sinigaidd. Tydi etholiadau’r Tŷ Gwyn ddim tan fis Tachwedd nesaf, ac mae gan D.T achos llys arall yn Efrog Newydd fis Mawrth nesaf. Leicio fo neu beidio, gobeithio y cawn ni fwy o raglenni Cymraeg am y wlad fawr gynhennus honno. Cyn belled â’u bod nhw’n cael gwared ar yr arfer blinderus Americanaidd o ailadrodd “Maxine Hughes ydw i, a dwi’n...” wrth ddychwelyd o’r hysbysebion.
Nid bod politics gwledydd Prydain yn fêl i gyd chwaith, rhwng #partygate a phleidiau eraill am yddfau’i gilydd. Rhyfedd a siomedig braidd bod cyfres Y Byd yn ei Le wedi gorffen am y tro, ymhell cyn i’r gwleidyddion ffeirio San Steffan a Bae Caerdydd am gaeau Llanelwedd a Boduan i drïo adennill ffydd yr etholwyr blinedig.
I aros ym myd gwleidyddiaeth (sori!), roedd Cranogwen gyda Ffion Hague yn gofnod hynod ddiddorol i gyd-fynd â dadorchuddio cerflun diweddaraf ‘Monumental Welsh Women’ yn Llangrannog. Mae enw uniaith Saesneg y mudiad hwnnw’n ddadlennol hefyd, ac roedd tipyn o gyfweliadau Saesneg yn britho’r rhaglen gan gynnwys rhai gyda’r cerflunydd ei hun, Sebastien Boyesen. Bid a fo am hynny, cawsom awr ddifyr am fenyw wnaeth dorri trwodd i fyd dynion mewn sawl maes – o’r môr i’r pulpud a’r byd cyhoeddi, a “Box Office da” fel darlithwraig fu’n teithio rownd capeli Cymraeg America benbaladr o 1869. Torrodd dir newydd fel bardd hefyd, a’r ferch gyntaf erioed i ennill gwobr farddoniaeth yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth 1865 am gerdd “Y Fodrwy Briodasol” lle mae gwraig yn gaeth i briodas ag alcoholig o forwr.
“Pe bai yn gallu, gwnelai frys, Gan fod yn hysbys iddi, Mai yn y dafarn drwy y dydd, Y mae ei gwr yn meddwi
A gwyr y daw oddiyno’n llew, Cynddeiriog ’mhen ychydig, I larpio, hwyrach, yn ei gwydd, Ei hangel bach gwywedig”
A thrwy ennill, llwyddodd i syfrdanu cynulleidfa’r Pafiliwn a phechu hen stejars yr oes fel Islwyn a Ceiriog am golli i ferch capten llong fach o gefn gwlad. “Doedd hyn ddim i fod i ddigwydd yn oes Fictoria!” meddai’r Dr Marion Löffler. Fwy nag oedd perthynas lesbiaidd agored mae’n siŵr, ond dychwelyd i fro ei mebyd wnaeth Cranogwen (Sarah Jane Rees) i fyw gyda Jane Thomas tan iddi farw ym 1916.
Anghofiwch da chi am girl power rhyw fand o Loegr. Roedd Cranogwen ym mhell bell o flaen ei hamser.
Gobeithio am fwy o gomisiynau Hanes ar S4C yn fuan iawn iawn.


Comments
Post a Comment