Ar dân


Mae'n haf. Sy'n golygu treulio oriau braf yn yr ardd efo nofela'r steddfod a gwydriad o rywbeth oer. Trip i'r traeth neu sioeau lleol. Picnics yn y parc a phnawniau diog mewn ryw r'ardd gwrw. Yr aer yn drwch o ogla eli haul a sosijis 'di llosgi.

Mewn byd delfrydol hynny yw. Achos 'leni, wrth i rannau helaeth o dde Ewrop ddiodda mewn gwres 40 canradd a mwy, bu'n dampar go iawn yng Nghymru a gweddill Brexitshire. Sy'n golygu cynnau'r teli bocs wrth iddi oeri a nosi'n gynt.

Mi gafodd ein sioeau sebon rywfaint o hoe dros y Sioe a'r Steddfod, wrth i Ifan a Mari, Trystan ac Elin a Nia hawlio ein sylw o fora gwyn tan nos gydag uchafbwyntia o'r uchafbwyntiau tan fis Medi. Dim mwy o ddramatics Glanrafon a Chwmderi am 'chydig. Rhaid wrth cliffhangyr i'n denu'n ôl at y tymor nesa. Cawsom ddiweddglo tanllyd i'r ddwy gyfres sebon. Yn Rownd a Rownd, roedd Trystan Siop Gwallt di trefnu gwyliau bwthyn-a-twba-poeth i'w gariad Rhys Garej, gwyliau wnaeth brysur droi'n feithrinfa wrth i Rhys a Dani ddod â babis efo nhw yn ogystal â Jason Lle Pizza. Dim jôcs babi mowr plis. Ac wele chwarae troi'n chwerw a'r bybls yn troi'n sur wrth i Trystan bwdu efo Rhys, a Dani a Jason yn methu lapswchan. Dyma Rhys yn clecian ei brosecco cyn baglu i'w wely a thowlu un o'r degau o ganhwyllau yn ddamweiniol, honno'n cydio mewn cyrtan, a throi'r bwthyn bach yn wenfflam. Falle wnaiff Efan (a laddodd John mewn damwain car yn gynharach eleni) achub y dydd wrth basio heibio efo'i warbac a'i wep gadwchlonyddifi cyn ceisio gadael y Fam Ynys eto...

Gant a hanner o filltiroedd i'r de, ac mae Rhys Gethin blin y Cwm, Gwern Monk, yn penderfynu talu'r pwyth yn ôl i Jinx Lle Pizza (arall) am dderbyn tŷ teras yn ewyllys Gwyneth Jôs yn lle fo. Doedd stynt Pobol y Cwm ddim hanner mor effeithiol na chredadwy ag un RR, wrth inni weld Gwern yn cynnau bom petrol ar Stryd Fowr wag Cwmderi, heb ddeall bod Jinx a Kelly ar fin ailgynnau petha lan lofft. Rŵan, da ni'n gwybod bod y Stryd Fowr yn dioddef wrth i gostau byw uchel, trethi busnes a'n hobsesiwn siopa ar-lein, roi'r farwol i fusnesau. Ond mae Stryd Fowr Cwmderi yn ddigon llewyrchus, gyda siop y pentra, deli cawsia Eileen, iard adeiladwyr, asiant dai (dim Ashurst), tŷ pizza a KFC y Cwm, fferyllfa'r Sgowsar dadleuol, tafarn a boutique Megan. Ac eto, pan oedd Gwern yn prysur losgi hen gartra ei fam yng ngola dydd, doedd na'r un enaid byw o gwmpas. Mi fuasa Magi Post neu Anti Marian wedi hen riportio'r diawl bach i DI Carys Eleri. 

Hefo mwy o ofal, amser ffilmio fin nos ac arian (DS BBC Studios) gallai'r cyfarwyddwr fod wedi trefnu i Gwern sleifio drwy'r ardd a drws y bac yn y tywyllwch, ymhell o olwg a chamerâu cloch y pentrefwyr. Ond na. Y canlyniad oedd camau amaturaidd, creu ffars o stori afaelgar a cholli amynedd yn lle ennyn cyffro. Biti garw.

Ac ar gyrion y pentra, roedd (unig) ffrind Gwern, Arwen White-Llywelyn, wedi llwyddo i sgrialu Polo bach ei mam i damp squib o stop mewn rhyw gae mwdlyd wrth i'w mam Ffion gael blacowt arall, heb dwtsiad y brêc na dim.

Glanrafon 1-0 Cwmderi felly.

Un peth sy'n gyffredin rhwng y ddwy gyfres ydi'r hinsawdd. Mae'r ffaith fod y naill a'r llall yn ffilmio gymaint ymlaen llaw, rhyw 5-6 mis, yn chwithig braidd. Mae'n golygu bod y cast yn gorfod actio'n hafaidd er eu bod nhw'n gwisgo thermals dan eu crysau-t, a brigau'r coed yn gwbl foel yn y cefndir llwyd. Dro arall, maen nhw'n chwys doman wrth ganu carolau efo Mr Lloyd yng Nglanrafon. Od iawn. Ai Cofid sy'n gyfrifol am ddrysu'r amserlen ffilmio? Dwi'n cofio adegau pan oedd Pobol y Cwm yn creu pennod arbennig lle'r oedd ambell gymeriad yn piciad i'r Roial Welsh neu'r Brifwyl, ond nid mwyach. Tydi'r pandemig heb amharu ar y sioeau Saesneg o be wela i, gyda setiau Albert Square ac Emmerdale yn wanwynol o wyrdd.

Ond i be âi boeni am betha felly. Mae'n brafio. Allan i'r ardd reit handi efo copi o Gwynt y Dwyrain cyn y storm nesa.

 Image

 

Comments

Popular posts from this blog

Prisoner Cell Block "Ll"

Plismyn drama a go iawn

Drama hirfelyn tesog