Y cyfryngau anghymdeithasol
![]() |
| Sage Todz, Ameer, Lloyd Lewis yn haul Boduan |
Wedi deg mlynedd a mwy, dwi wedi rhoi’r gorau iddi. Wedi cefnu ar yr arferiad afiach. Cyffur a oedd yn fy atal i rhag gwneud pethau llawer mwy cynhyrchiol, yn chwalu pen a ’nghadw i’n effro tan yr oriau mân. Oedd, oedd hi’n bryd dileu Twitter neu X Elon Musk o’r ffôn lôn. Dim mwy o sgrolio fel sombi, canfod ambell berl, a blocio mwy a mwy o leisiau adain dde eithafol. Y rhan fwya’n anhysbys wrth gwrs, fel yr ategodd Y Byd ar Bedwar yn ddiweddar.
Ddechrau’r haf, clywsom am ‘wleidyddion dan fygythiad’ gydag aelodau seneddol fel Fay Jones (Ceidwadwyr) a Liz Saville Roberts (Plaid) a Jane Dodd AoS (LibDem) yn sôn am weithio mewn swyddfeydd â larymau panig a sgriniau gwrth-fwledi. Ys gwedodd Saville-Roberts, “mae rhyddid barn yn morffio mewn i rhywbeth llawer mwy peryglus na hynny”. Dangosodd arolwg y rhaglen bod 95% o wleidyddion Cymru wedi derbyn neges fygythiol dros y ffôn, ar e-bost, drwy’r cyfryngau cymdeithasol wrth wneud eu swydd, a chanran frawychus o 47% wedi derbyn bygythiad i’w lladd.
Y cyfryngau cymdeithasol oedd peth o’r drwg yn y caws yn achos stori’r cyflwynydd a’r hyrwyddwr iaith Ameer Davies-Rana hefyd wrth iddo holi ‘Ydy Cymru’n hiliol?’ adeg Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb ym mis Hydref. Derbyn ymateb annymunol i lun Twitter dros yr haf wnaeth Ameer, Cymro Pacistanaidd o Rydaman, a derbyn “peth o’r gamdrinieth waetha fi erioed ’di cael”. Llun hyfryd ohono fo a’r rapwyr Lloyd Lewis a Sage Todz yn mwynhau peint ar Faes Boduan dan y pennawd ‘Dyfodol y Gymraeg’ a sbardunodd ambell ymateb hyll a hiliol. Gan gynnwys rhai Cymraeg. Pob un gan gyfrifon dienw yn llechu y tu ôl i lun proffil ffug. Ac ar ôl i Ameer sôn am ei brofiad ysgytwol yn fachgen ysgol a gafodd ymosodiad hiliol ar lafar ar strydoedd Caerfyrddin, aeth ef a’r camerâu i Ddyffyn Nantlle i gwrdd â dyn busnes lleol a Chymro rhugl arall, Ali Imanpour, o dras Iranaidd. Ac o lygad y ffynnon, clywsom am ei brofiadau torcalonnus yn dioddef Islamoffobia ar y cae pêl-droed neu’n rhinwedd ei swydd – fel ei ferch 12 oed yn yr ysgol yn ddiweddar. Oes, mae yna uffarn o job addysgu’r Gymru Gymraeg o hyd. Diolch i Ameer a chriw ymchwil ardderchog ITV Cymru am fwrw goleuni ar ochr dywyll o’n cymdeithas fodern ni.
Mae S4C wirioneddol wedi newid gêr o ran cynrychiolaeth pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ers y dechreuad gwynnach na gwyn ym 1982. Mae ganddon ni actorion o Mali Ann Rees (Anfamol) i Eira Adoh (Esther Pobol y Cwm), sylwebwyr rygbi a mwy yn Aled Brew a Lloyd Lewis, a’r comedïwyr Leila Navabi a Priya Hall (sydd hefyd yn un o gast drama Rhinoseros y Theatr Gen). Ac mae’r rapiwr o Ben-y-groes, Sage Todz bellach yn ennill ei blwyf fel cyflwynydd tebol.
Fel rhan o Fis Hanes Pobl Ddu, mi lywiodd raglen codi calon Y Neges nid yr Iaith. Er, mae angen gwersi daear a hanes difrifol ar bwy bynnag sgwennodd y blyrb i’r wasg ar gyfer Clic ac iPlayer (“taith gerddorol o amgylch Prydain lle mae'r artist hip hop Sage Todz yn cyfarfod artistiaid eraill sydd yn gweithio mewn ieithoedd lleiafrifol”) gan fod rapiwr Gwyddeleg o Swydd Kerry hefyd yn rhan o’r ymweliad hwnnw. Ac roedd Súil Amháin yn ogystal â Hammy Sgìth o Glasgow yn unfrydol bod rhaid i ieithoedd esblygu ac osgoi cael eu cadw mewn bocs gan siaradwyr brodorol, wrth i’r rhaglen orffen gyda pherfformiad egnïol Sage o flaen ieuenctid honco Tafwyl eleni.
Beth am ganolbwyntio mwy ar hynny a llai ar gachgwn y cyfryngau cymdeithasol?


Comments
Post a Comment